Canolfan Ddatblygu Conwy Wledig yn Llanrwst, Gogledd Cymru
Wedi'i leoli ym mhrydferthwch Dyffryn Conwy yng Ngogledd Cymru ac yn fynedfa i Eryri. Mae canolfan broffesiynol Glasdir, sydd mewn ardal wledig anhygoel, yn le gwych ar gyfer cynadleddau Busnes, arddangosfeydd, ffeiriau, cyfarfodydd a hyfforddiant.
- Lleoliad i Gynadleddau Busnes
- Ystafelloedd Cyfarfod a Hyfforddi
- Lleoliad ar gyfer Ffeiriau ac Arddangosfeydd
- Cyfleusterau Eang
- Poethfan Wi-Fi
Wedi’i leoli yn Llanrwst yng nghanol Dyffryn Conwy, mae Glasdir mewn lle cyfleus ar gyfer sawl trafnidiaeth gwahanol. Byddai siwrne yn y car, sy’n 25 munud o hyd, yn mynd â chi at ffordd ddeuol yr A55 sy’n cysylltu â’r M56 a’r M53; mae Manceinion a Lerpwl o fewn pellter gyrru, yn ogystal â’u meysydd awyr.
Mae Glasdir yn adeilad newydd a chyffrous, wedi’i gynllunio i gynnwys cyfleusterau modern ar gyfer cynadleddau, arddangosfeydd, ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi ar gyfer amrywiaeth o gwmnïau a phobl. Mae yma amrywiaeth o ystafelloedd a gwasanaethau ar gyfer digwyddiadau a chynadleddau o bob maint. Beth bynnag eich gofynion, mae ein tîm ymroddgar yma i’ch cynorthwyo.

Newyddion Diweddaraf

Gwybodaeth Gyswllt
Am fwy o wybodaeth defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein, neu cysylltwch â ni drwy:
Post: Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Gogledd Cymru, LL26 0DF
Ffôn: 01492 640640
E-bost: ![]()
Hawlfraint y cynnwys Glasdir - Canolfan Ddatblygu Conwy Wledig, Llanrwst, Gogledd Cymru.
Dyluniwyd y wefan gan PJ WebWorks

