Ardal Glasdir - Cefn Gwlad Conwy yng Ngogledd Cymru
Glasdir - Mae Canolfan Datblygu Conwy Wledig yng nghalon Dyffryn Conwy, yn Llanrwst - wedi ei leoli yng nghanol Sir Conwy. Mae Sir Conwy mewn ardal o dirwedd arbennig sy’n amrywio o draethau melyn a phentiroedd eang i ddyffrynnoedd cysgodol, rhos agored a mynyddoedd garw. Mae ei heconomi yn dibynnu llawer ar dwristiaeth. Amaethyddiaeth a choedwigaeth yw prif gynheiliad o weithgaredd a chyflogaeth yn yr ardaloedd gwledig. Mae cyflogaeth ddiwydiannol ar gael ond mae’n brin, ac wedi ei leoli yn bennaf ar yr arfordir, gan gynnwys busnesau cynhyrchu ac ymchwil adnabyddus.
Tu hwnt i Barc Cenedlaethol Eryri, mae cefn gwlad Conwy sy’n hynod ddeniadol, yn ardal amaethyddol yn bennaf heb lawer o ddewis cyflogaeth. Ychydig iawn o bwysedd datblygu sydd yn yr ardal hefyd. Mae poblogaeth yr ardal ar wasgar ac yn siarad Cymraeg yn bennaf. Y prif fannau yw tref marchnad Llanrwst a’r pentrefi canlynol sydd ar wasgar sef, Betws-yn-Rhos, Eglwysbach, Llanfairtalhaiarn, Llansannan, Llangernyw, Pentrefoelas a Cherrigydrudion.
Y prif ddulliau o gyrraedd, a gadael Sir Conwy, yw ffordd arfordirol yr A55, y rheilffordd baralel o Lundain i Gaergybi, a ffordd yr A5 i’r De. Mae’r A470 yn ffordd sy’n cysylltu’r gogledd â’r de ac mae’n rhedeg gyfochr â’r rheilffordd sy’n cysylltu Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog. Mae’r A545, A544 a’r A548 yn ffyrdd sy’n eich arwain i’r ardal fawr wledig, i’r dwyrain o’r Afon Gonwy.
Gwybodaeth Gyswllt
Am fwy o wybodaeth defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein, neu cysylltwch â ni drwy:
Post: Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Gogledd Cymru, LL26 0DF
Ffôn: 01492 640640
E-bost: ![]()
Hawlfraint y cynnwys Glasdir - Canolfan Ddatblygu Conwy Wledig, Llanrwst, Gogledd Cymru.

